HELO - HELLO | PWYLLGOR - COMMITTEE | YMUNO - JOIN | DIGWYDDIADAU - EVENTS | LLYFRGELL - LIBRARY | CEISIO - APPLYING
C Y F A N S O D D I A D   C Y M D E I T H A S   Y   M A B I N O G I

1. ENW:

Gelwir y gymdeithas 'Cymdeithas y Mabinogi'. O hyn ymlaen cyfeirir ati fel ‘y gymdeithas.’

2. AMCANION:

Bydd y gymdeithas yn anwleidyddol, yn ddwyieithog ac yn hyrwyddo a meithrin diddordeb yng Nghymru, yr Iaith Gymraeg a materion Cymreig.

3. AELODAETH:

a) Bydd aelodaeth yn agored i holl aelodau’r brifysgol, ac unrhywun arall sydd â diddordeb, yn amodol ar ganitad y pwyllgor.

b) Codir tâl aelodaeth, naill ai’n flynyddol neu am oes, am swm y penderfynir arno gan y pwyllgor.

c) Bydd gan y pwyllgor yr hawl i gynnig aelodaeth er anrhydedd ac aelodaeth am oes i unrhywun yr ystyrir yn deilwng.  

ch) Bydd gan y gymdeithas hawl i ddiarddel aelod y bydd ei h/ymddygiad yn debygol o ddwyn enw drwg i’r gymdeithas. Bydd y diarddeliad yn amodol ar bleidlais yng nghyfarfod cyffredinol nesaf y gymdeithas.

4. PWYLLGOR:

a) Bydd y gymdeithas yn cael ei rheoli gan bwyllgor a etholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Ethloir y trysorydd yn ystod tymor yr Hydref.

b) Aelodau’r pwyllgor craidd yw’r:

i)                    Llywydd

ii)                   Is-Lywydd

iii)                 Trysorydd

iv)                 Ysgrifennydd

Aelodau’r pwyllgor cyffredinol yw’r:

i)                    Swyddog Cyhoeddurswydd

ii)                   Swyddog y Wefan

iii)                 Dau swyddog heb swydd benodol

c) Yn ogystal a’r rhain, mi fydd Uwch-Drysorydd, a fydd yn aelod o senedd y Brifysgol neu’n un a gymeradwyir gan yr Is-Broctor. Bydd yr Uwch-Drysorydd yn cael ei b/phenodi gan aelodau’r pwyllgor craidd.

ch) Bydd mwyafrif o aelodau etholedig y pwyllgor craidd yn fyfyrwyr amser llawn israeddedig neu graddedig o’r Brifysgol.

d) Cadeirir cyfarfodydd y pwyllgor gan y Llywydd, neu’r Is-Lywydd yn absenoldeb y Llywydd. Os nad oes un ohonynt yn bresennol, dewisir cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw gan aelodau’r pwyllgor.

dd) Bydd y pwyllgor yn cyfarfod o leiaf unwaith y tymor.

e) Rhaid i'r Ysgrifennydd alw cyfarfod o'r pwyllgor pan fynn y llywydd, neu ar gais o leiaf tri aelod o'r pwyllgor.

f) Rhaid i'r Ysgrifennydd hysbysu pob aelod o'r pwyllgor am y cyfarfod o leiaf deuddydd cyn y cyfarfod oni bo argyfwng.

5. CYFARFODYDD CYFFREDINOL:

a) Gelwir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) tua diwedd tymor y Grawys.

b) Gall y Llywydd neu'r pwyllgor alw cyfarfod cyffredinol pan y dymunant. Os y derbyniant gais i alw cyfarfod cyffredinol a gefnogir gan ddeg aelod o'r gymdeithas rhaid iddynt wneud hynny cyn pen wythnos.

c) Bydd yn ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd i roi gwybod i bob aelod o'r gymdeithas am y cyfarfod o leiaf deuddydd o flaen llaw. Yn yr hysbysiad rhaid nodi y materion sydd i'w trafod.

ch) Bydd hawl gan bob aelod o'r gymdeithas a fydd yn bresennol i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol.

d) Os gelwir pleidlais, bydd angen mwyafrif i basio’r cynnig.

dd) Cadeirir y cyfarfod cyffredinol gan y Llywydd, neu’r Is-Lywydd yn absenoldeb y Llywydd. Os nad oes un ohonynt yn bresennol, dewisir cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw gan aelodau’r pwyllgor.

f) Gall y cyfarfod blynyddol ethol llywydd anrhydeddus.

6. MATERION ARIANNOL

a) Bydd y Gymdeithas yn cadw cyfrif bancio gyda banc neu gymdeithas adeiladu addas er mwyn cadw arian y Gymdeithas.

b) Penderfynir ar y banc neu gymdeithas adeiladu gan y Pwyllgor Craidd.

c) Llofnod yr Is-Drysorydd fydd ar y cyfrif bancio.

ch) Bydd dyletswydd ar y Trysorydd Iau i sicrhau bod arian a dderbyniwyd yn cael ei gofnodi'n gywir a bod cofnodau ariannol y Gymdeithas yn cael eu cadw mewn trefn.

d) Ar ddiwedd ei ch/gyfnod yn y swydd, bydd yr Is-Drysorydd yn hyfforddi'r Is-Drysorydd dilynol ar fanylion rhedeg y swydd, ac yn cynorthwyo gyda'r broses o newid y llofnod ar y cyfrif bancio.

dd) Bydd yr Is-Drysorydd yn paratoi cyfrifon blynyddol y Gymdeithas erbyn y dyddiad a benodir gan yr Is-Broctor.

e) Cyn cyflwyno cyfrifon blynyddol y gymdeithas, bydd yr Is-Drysorydd yn cyflwyno adroddiad ar gyfrifon y Gymdeithas dros y flwyddyn flaenorol i'r Pwyllgor Craidd.
 
f) Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Is-Drysorydd yn rhoi cyflwyniad byr ar sefyllfa a gweithgareddau ariannol y Gymdeithas dros y flwyddyn flaenorol.

ff) Bydd yr Uwch-Drysorydd yn trefnu i gyfrifon y Gymdeithas gael eu harchwilio'n gywir, naill ai ganddo ef / ganddi hi, neu gan rywun arall a gymeradwywyd gan Ordeiniadau'r Brifysgol.

g) Ni fydd yr Uwch-Drysorydd yn gyfrifol am unrhyw ddyled ariannol neu unrhyw
ddyletswyddau eraill y Gymdeithas heblaw ei f/bod ef/hi yn bersonol wedi cytuno i'r ddyled yn ysgrifenedig.

ng) Tra bo’r Gymdeithas wedi ei Chofrestru gan yr Is-Broctor, dyletswydd y Pwyllgor Craidd fydd sicrhau bod y gymdeithas yn cydfynd â gofynion cofrestru fel Cymdeithas o'r Brifysgol.

7. NEWIDIADAU I’R CYFANSODDIAD:

a) Ni newidir unrhyw agwedd o’r cyfansoddiad ond trwy ganiatad deuparth yr aelodau a fo'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol.

8. DATGORFFORIAD

a) Gellir datgorffori’r gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol, ar yr amod bod pythefnos o rybudd wedi’i roi o’r bwriad hwn i’r aelodau. Bydd angen i ddeuparth yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod hwn bledleisio o blaid y cynnig i ddatgorffori’r gymdeithas er mwyn gwireddu’r datgorfforiad.

b) Fel rhan o’r cynnig i ddatgorffori’r gymdeithas, dylid trefnu trosglwyddo unrhyw feddianau sydd gan y gymdeithas, wedi iddi dalu ei dyledion, i un o Gymdeithasau Cofrestredig y Brifysgol neu Cynghrair y Cymdeithasau.

Casi Dylan, Bryn Jones, Luke Pearce, Jamie White : Pwyllgor 2004/05

10/3/2005